Loading Events
22 September 2025
Online and In-Person

Dosbarth Myfyrdod yn y Gymraeg – Welsh Meditation Class

A hoffech chi wneud myfyrdod yn weithgaredd diymdrech, sy’n tawelu'n ddwfn ac yn wirioneddol drawsnewidiol? Bydd y gyfres hon o ddosbarthiadau yn rhoi technegau ymarferol i chi ganolbwyntio'ch meddwl a chreu tawelwch mewnol parhaol.

Ydych chi wedi bod eisiau dysgu myfyrdod erioed, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Neu efallai eich bod yn arfer ymarfer ond wedi colli eich cymhelliant?

Bydd y dosbarth myfyrdod misol hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg gan Jane Clapham, dysgwr sydd wedi byw yng Nghymru am y rhan fwyaf o’i hoes. Bydd Jane yn eich arwain trwy ymestyn ysgafn a thechnegau ymlacio i’ch paratoi i eistedd yn gyfforddus ar gyfer myfyrdod dan arweiniad 10-20 munud. Bydd y dosbarth hwn yn eich helpu i ryddhau straen a gorbryder, gwella ffocws, a rheoli gwrthdyniadau. Mae croeso i ddechreuwyr, yn ogystal â myfyrwyr mwy profiadol. Mae’r dosbarth yn gymysg – gallwch naill ai ymuno yn y cnawd yn y Ganolfan ger Bethesda, neu gallwch ymuno ar Zoom o gartref – bydd recordiad hefyd ar gael.

O.N. Mae’n ddrwg gen i fod y wefan yn y Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Pan fyddwch yn archebu eich lle ar-lein, bydd angen i chi ddefnyddio’r Saesneg, ond bydd y dosbarth yn y Gymraeg.

  • 🌀 Ar ôl y dosbarth myfyrdod, bydd Jane yn arwain sesiwn o Myfyrio â Gongiau o 7.00 – 8.15yh. Mae croeso i chi aros ymlaen a chymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad am bris gostyngol arbennig.
  • Os ydych chi’n chwilio am ryddhad o straen neu orbryder, bydd y sesiwn hon yn cynnig 75 munud o ymlacio dwfn gyda synau iachaol – gan gynnwys y gong Japaneaidd, clychau, powlenni pres, a mantrâu cysegredig. Bydd lleoedd ar gael yn y cnawd neu ar-lein, gyda recordiad ar gael am wythnos i’r rhai sy’n archebu.

Gwybodaeth am eich athro

Ganed Jane yn Swydd Buckingham a symudodd i Ogledd Sir Benfro yn blentyn. Dechreuodd fyfyrio yn ei harddegau a chafodd fanteision enfawr – felly dechreuodd hyfforddi fel athrawes ioga a myfyrio yn 19 oed. Heddiw, mae Jane yn rheolwr yng Nghanolfan Ioga Dru yn Nhy’n y Maes, Bethesda, ac mae’n frwd dros rannu manteision ioga, myfyrdod a sain gysegredig trwy ei sesiynau myfyrio â gongiau rheolaidd a’i dosbarthiadau myfyrio. Dysgodd Jane y Gymraeg yn 5 oed a mynychodd Ysgol y Preseli, Crymych, cyn symud i Ogledd Cymru i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n ddysgwr Cymraeg brwdfrydig ac yn mwynhau siarad Cymraeg cymaint â phosib.

If you are a member of the Dru Professional Network you will accrue 1 CPD hour for attendance at this event. Attendees from other yoga schools will need to check individually for their own CPD credits.

 

When, Where & How much
  • 22ed Medi – 5.30-6.30yh
  • Yn fyw ar-lein neu’n bersonol yn Dru Yoga Centre – Hafan Ogwen, Snowdonia Mountain Lodge
  • £8-£12
  • 1 CPD point for DPN members

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Torri trwy straen a gorlethu

  • Ailgysylltu â chi’ch hun
  • Sefydlu ymarfer myfyrdod sy’n gweithio’n wirioneddol
  • Dysgu am waith anadlu, myfyrdod, a symudiad ysgafn
  • Ailosod eich system nerfol
  • Lleddfu gorbryder
  • Dychwelyd i le o gydbwysedd mewnol

 


Beth fyddwch chi'n ei brofi?

  • Gwaith anadlu dan arweiniad – Technegau profedig i leddfu gorbryder a chreu tawelwch ar unwaith
  • Symudiadau iogig syml ond pwerus – Yn paratoi’ch corff i eistedd yn rhwydd
  • Arferion myfyrdod dan arweiniad arbenigwr – Dysgwch sut i ganolbwyntio’ch meddwl yn wirioneddol
  • Offer ymarferol ar gyfer lleddfu straen yn eich bywyd go iawn – Tynnwch fyfyrdod oddi ar y glustog ac i mewn i’ch diwrnod

Tickets

The numbers below include tickets for this event already in your basket. Clicking "Get Tickets" will allow you to edit any existing attendee information as well as change ticket quantities.
Tickets are no longer available